Mae ymchwil newydd ar ran elusen Stonewall yn dangos bod hanner cefnogwyr chwaraeon yng Nghymru wedi bod yn dyst i iaith neu ymddygiad oedd yn sarhaus i bobol lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws mewn wrth wylio chwaraeon.

Mae’r rhan fwyaf o achosion (91%) yn digwydd ar feysydd pêl-droed.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos, wrth edrych ledled Prydain, bod pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed bron â bod ddwywaith mor debygol o ddweud y bydden nhw’n teimlo embaras petai eu hoff chwaraewr yn dod allan yn hoyw (22% o gymharu â 12% ar y cyfan).

Mae’r grŵp oedran yma hefyd bron â bod ddwywaith mor debygol o gytuno bod iaith wrth-LHDT yn ddiniwed os mai dim ond cellwair roedd rhywun (22% o gymharu â 13%).

Yr ystadegau

*  68% o bobol Cymru yn credu bod iaith sarhaus tuag at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws mewn chwaraeon yn broblem;

* 72% o bobol Cymru yn dweud y dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobol lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn mewn chwaraeon;

* Mae 67% yn dweud y byddai chwaraewyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws agored yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant chwaraeon;

* 72% o’r farn yr hoffen nhw weld rhagor o chwaraewyr agored hoyw.

* Byddai 81% o0 gefnogwyr chwaraeon yng Nghymru yn hapus i chwarae ochr yn ochr ag aelod tîm sy’n ddeurywiol, a 73% yn hapus ochr yn ochr ag aelod tîm sy’n drawsrywiol.

Siomedig 

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Mewn blwyddyn mor anhygoel i bêl-droed Cymru, mae’n arbennig o siomedig bod cymaint o gefnogwyr wedi clywed iaith homoffobaidd mewn gemau.

Mae angen i glybiau a phersonoliaethau chwaraeon proffil uchel sefyll gyda ni fel cynghreiriaid a helpu i wneud chwaraeon yn gêm i bawb drwy ddangos nad oes lle i gamdriniaeth homoffobaidd mewn chwaraeon.”

“Mae Stonewall wedi datblygu pecyn cymorth chwaraeon ar gyfer chwaraeon cymunedol a llawr gwlad, er mwyn datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, a sut gallan nhw helpu i sicrhau bod pob camp yn cynnig awyrgylch cynhwysol a chroesawgar.”