Enillodd Phil Pratt, 22 o Gaerdydd, fedal efydd fel aelod o dîm pêl-fasged mewn cadair olwyn Prydain nos Sadwrn.

Enillodd Prydain gêm y fedal efydd drwy guro Twrci o 82-76 yn dilyn amser ychwanegol.

Mae’n golygu bellach fod gan bara-athletwyr o Gymru saith medal rhyngddyn nhw.

Hefyd ar y noson, gorffennodd Laura Sugar yn bumed yn y ras 100m T44 i ferched, gan orffen mewn 13.37 eiliad – ei hamser cyflymaf erioed.