Enillodd nofiwr sy’n cael ei ariannu gan Chwaraeon Anabledd Cymru fedal aur yn y 100 metr dull y frest yn nosbarth SB14 yn Rio ddydd Mercher.

Mae Aaron Moores yn wreiddiol o Swydd Wiltshire, ond mae e’n ymarfer yn y pwll cenedlaethol yn Abertawe.

Daeth Moores i’r brig mewn 1:06:67, 0.03 eiliad o flaen Scott Quinn o Brydain, a gipiodd y fedal arian.

Marc Evers o’r Iseldiroedd gipiodd y fedal efydd wrth orffen y ras mewn 1:07:64.

Bellach, mae para-athletwyr o Brydain wedi ennill mwy o fedalau nag y gwnaethon nhw yn Llundain bedair blynedd yn ôl.