Collodd Devils Caerdydd o 4-2 oddi cartref yn y Gwpan Her yn erbyn Manchester Storm ar noson gynta’r tymor hoci iâ newydd nos Sadwrn.

Dechreuodd y Devils yn gryf, ond fe ildion nhw’r meddiant o fewn munudau wrth i’r Storm fentro i ben draw’r rinc a Darian Dziurynski yn darganfod cefn y rhwyd ar ôl 4 munud a 53 eiliad.

Roedd y Devils yn gyfartal hanner ffordd drwy’r ail gyfnod wrth i Joey Haddad ergydio heibio Mike Clemente yn y gôl, a Layne Ulmer ac Andrew Hotham yn ei gynorthwyo.

Ond aeth y Saeson ar y blaen dair munud cyn diwedd yr ail gyfnod, wrth i Matt Bissonnette rwydo ar ôl 36 munud a 45 eiliad, a Mario Valery-Trabucco yn ei gynorthwyo.

Dechrau cryf gafodd y Devils unwaith eto yn y trydydd cyfnod, wrth i Gleason Fournier sgorio ar ôl 47 munud a 51 eiliad, wrth i Haddad a Sean Bentivoglio ei gynorthwyo.

Ond y Storm aeth ar y blaen unwaith eto, gyda Dziurynski yn sgorio’i ail gôl ar ôl 56 munud a 12 eiliad i roi mantais o 3-2 i’r Saeson.

Wrth i’r golwr Ben Bowns gael ei dynnu o’r gôl mewn ymgais i fod yn fwy ymosodol, manteisiodd y Storm ar y bwlch yn y cefn wrth i Valery-Trabucco rwydo i’w gwneud hi’n 4-2.

Dziurynski gafodd ei enwi’n seren y gêm.

Mae’r Devils yn herio’r Braehead Clan yng Nghaerdydd am 6 o’r gloch nos Sul.