Owain Doull (Llun
Julien Vermote fydd yn gwisgo’r crys melyn wrth i ras feics y Tour of Britain ddod i Gymru am ddau gymal heddiw a fory, ond mae’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd, Owain Doull yn dechrau wyth safle o’r gwaelod.

Cafodd Doull ddamwain ddoe yn ystod y trydydd cymal rhwng Congleton a Knutsford yn Sir Gaer.

Ond fe fydd y pedwerydd cymal rhwng Dinbych a Llanfair-ym-Muallt heddiw a’r pumed cymal rhwng Aberdâr a Chaerfaddon yfory yn gyfle i’r Cymro wella’i safle ar ei domen ei hun.

Hon yw ras olaf Owain Doull cyn iddo symud o dîm Wiggins i Sky.

Fe ddaw’r trosglwyddiad ar ôl Gemau Olympaidd llwyddiannus i Doull, oedd yn aelod o’r tîm ymlid a gipiodd y fedal aur yn Rio wrth guro Awstralia yn y rownd derfynol.

Doull enillodd y crys gwyrdd yn y ras y llynedd ond mae e’n cyfadde y bydd yn anodd addasu ei feddylfryd ar gyfer y ras hir ar ôl bod ar y trac.

Tra bod Vermote o Wlad Belg yn y crys melyn, fe fydd André Greipel yn y crys gwyrdd drwy rinwedd ei berfformiadau yn y rasys gwibio.

Ramon Sinkeldam fydd yn y crys glas am y nifer fwyaf o bwyntiau, tra bydd Xando Meurisse yn y crys du fel ‘Brenin y Mynyddoedd’.