Carol Boardman, mam Chris Boardman, Llun: Heddlu Gogledd Cymru/PA
Mae’r beiciwr ac enillydd medal aur Olympaidd Chris Boardman wedi siarad am farwolaeth “diangen” ei fam wrth gefnogi ymgyrch i gael rhagor o fuddsoddiad mewn beicio.

Bu farw mam Chris Boardman mewn gwrthdrawiad â cherbyd tra’n beicio yng Nghei Conna ym mis Gorffennaf. Cafodd Carol Boardman, 75, ei chludo i’r ysbyty ar ôl y gwrthdrawiad ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd Chris Boardman bod ei marwolaeth wedi ei wneud yn fwy penderfynol i ymgyrchu dros lwybrau beicio a cherdded newydd.

Daeth ei sylwadau wrth i rai o feicwyr Tim Prydain, sydd wedi ennill medalau aur, ysgrifennu at y Prif Weinidog Theresa May yn galw arni i greu “etifeddiaeth o feicio bob dydd” i anrhydeddu eu llwyddiant.

Llythyr

Yn ogystal â Chris Boardman, mae Syr Chris Hoy, Laura Trott a Jason Kenny ymysg y rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr sy’n annog y Prif Weinidog i neilltuo 5% o wariant y Llywodraeth ar drafnidiaeth ar feicio.

Mae’r llythyr yn dadlau y gellid mynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant drwy hyrwyddo pwysigrwydd cerdded a beicio i’r ysgol ac awgrymwyd hefyd bod dinasoedd fel Efrog Newydd a Copenhagen yn dangos sut y gall beicio greu “lleoedd gwell i fyw a gweithio”.

Wrth siarad ar BBC Radio 5 Live Breakfast y bore ma, dywedodd Chris Boardman, sy’n ymgynghorydd polisi gyda Beicio Prydain,  bod marwolaeth ei fam yn un “diangen”.

Ychwanegodd enillydd y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Barcelona yn 1992 ei fod yn “flin” bod ei marwolaeth wedi gwneud iddo “boeni’n afresymol” am ei blant yn beicio ar y ffyrdd.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth bod buddsoddiad mewn seiclo wedi treblu ers 2010.