Jade Jones yn ymladd yn Llundain 2012 (Llun: Wikipedia)
Bydd Jade Jones o’r Fflint yn ceisio amddiffyn ei theitl Olympaidd yn y taekwondo yn Rio heddiw.

Enillodd hi’r fedal aur yn Llundain yn y categori hyd at 57kg bedair blynedd yn ôl ar ôl curo Yuzhuo Hou o China – pencampwraig y byd – yn y rownd derfynol.

Yn 23 oed, hi oedd y ferch gyntaf o Brydain i fod yn bencampwraig Olympaidd yn ei champ.

Ddwy flynedd yn unig cyn hynny, roedd hi’n ddibynnol ar roddion gan bobol leol i allu codi’r £1,500 i deithio i’r Gemau Olympaidd Ieuenctid yn Singapôr.

Bydd hi’n cystadlu yn rownd yr 16 olaf am 2.30yp heddiw, a hynny yn erbyn Naima Bakkal o Forocco.

Pe bai hi’n llwyddo i ennill honno, mi allai hi fod yn rownd yr wyth olaf am 7 o’r gloch, a’r rownd gyn-derfynol am 9 o’r gloch heno, a’r rownd derfynol am 2 o’r fore Gwener.