Owain Doull (Llun: Wikipedia/Jeremy Jannick)
Mae Tîm Sky wedi cyhoeddi heddiw bod y Cymro Cymraeg, Owain Doull, yn ymuno â nhw’n swyddogol y flwyddyn nesaf.

Daw’r cadarnhad swyddogol heddiw, er bod sïon wedi bod ar led am y trosglwyddiad ers mis Mai.

Fe fydd y seiclwr 23 oed yn gadael Tîm Wiggins ac ymuno’n llawn â Thîm Sky yn 2017, a bydd yn cymryd rhan mewn ambell ras i’w dîm newydd yn ystod gweddill y tymor eleni.

Owain Doull ydy’r Cymro Cymraeg cyntaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd, a hynny fel aelod o bedwarawd yr ymlid beics yn Rio de Janeiro yr wythnos diwethaf.

‘Swreal’

“Mae wastad wedi bod yn freuddwyd ers pan oeddwn i’n fachgen i geisio ymuno â Sky,” meddai Owain Doull.

“Felly, mae bod mewn man lle dw i ar fin dechrau rasio gyda’r tîm, ac yna ymuno â’r tîm yn swyddogol yn 2017 yn eithaf swreal.”

Dywedodd Syr Dave Brailsford, Prif Swyddog Tîm Sky, “mae Owain wedi perfformio’n wych yn gyson ar y trac ac ar y ffyrdd ac rydym yn credu fod ganddo’r potensial i fod yn rhan bwysig o’r tîm.”