Mae’r Gymraes Elinor Barker wedi helpu tîm seiclo Prydain i dorri record y byd wrth iddyn nhw ennill y fedal aur yn yr ymlid tîm yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro.

Gorffennodd y tîm y ras mewn pedair munud a 10.23 eiliad – sy’n record byd – wrth iddyn nhw guro’r Unol Daleithiau.

Wrth sicrhau’r fuddugoliaeth, Laura Trott bellach yw’r ddynes gyntaf o Brydain i ennill tair medal aur yn y Gemau Olympaidd.

Jo Rowsell-Shand a Katie Archibald oedd y ddwy arall yn y tîm.

Canada gipiodd y fedal efydd, wrth iddyn nhw guro Seland Newydd.

Ar ddiwedd y ras, dywedodd Elinor Barker wrth y BBC: “Mae’n anhygoel! Mae’n teimlo fel pe bai e wedi gwibio heibio.

“Ro’n i’n stryglo braidd ond pan welais i’r amser, ro’n i’n meddwl ’does dim syndod ’mod i wedi stryglo.”

Wrth gyfeirio at fedal aur a record byd Owain Doull a’r dynion nos Wener – y gwnaeth y merched ei efelychu – ychwanegodd Barker: “Roedd e’n stryglo yn y cefn hefyd, falle mai rhywbeth Cymreig yw e!”