Chloe Tutton (Llun o'i gwefan)
Mae nofwraig o’r Rhondda trwodd i rownd derfynol ei ras yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro.

Fe fydd Chloe Tutton yn cymryd rhan yn ffeinal y ras 200m dull broga nos Wener, wedi iddo ennill ei lle trwy gwblhau’r pellter mewn 2 funud 23 munud 34 eiliad, a gorffen yn drydydd yn ei ras gyn-derfynol.

Fe fydd yn un o ddwy nofwraig o dîm Prydain a fydd yn nofio am fedal nos fory, gan y bydd ei chyd-aelod, Molly Renshaw yn mynd amdani hefyd.

Dim lwc i Ieuan Lloyd

Aeth pethau ddim mor dda yn y pwll Olympaidd i’r nofiwr o Gaerdydd, Ieuan Lloyd, gan iddo fethu ag ennill ei le yn rownd derfynol y ras 200m medli yn erbyn enwau mawr fel Michael Phelps a Ryan Lochte.