Jazz Carlin
Nofwraig o Gymru yw enillydd medal gynta’ tim Prydain yng Ngemau Olympaidd Rio 2016.

Fe lwyddodd Jazz Carlin, 25, i ddod yn ail yn rownd derfynol ras 400m dull rhydd y merched.

Roedd y nofwraig o Abertawe wedi methu ennill ei lle yn y tim ar gyfer gemau Llundain yn 2012, ond fe lwyddodd y tro hwn. Dim ond Katie Ledecky ddaeth rhyngddi a’r fedal aur.

“Rwy’ mor ddiolchgar i bawb gartre’ sydd wedi fy nghefnogi i,” meddai Jazz Carlin mewn cyfweliad wedi’r ras. “Ro’n i jyst eisie dod i Rio a gwneud fy ngorau… a dw i’n difaru dim. Allen i ddim fod wedi rhoi mwy.”