Andy Murray Llun: PA
Wedi i Andy Murray ennill Wimbledon am yr eildro, dywedodd fod ei gyfnod gorau mewn tenis “eto i ddod.”

Curodd Milos Raonic o 6-4 7-6 (7/3) 7-6 (7/2), gan olygu mai dyma’r drydedd fuddugoliaeth mewn camp lawn o 11 rownd derfynol iddo.

Am y tro cyntaf erioed, doedd dim rhaid iddo wynebu Novak Djokovic, Roger Federer na Rafael Nadal.

Roedd buddugoliaeth Sam Querrey dros Novak Djokovic yn un o’r digwyddiadau mwyaf annisgwyl yn ystod y bencampwriaeth.

Ac mae’r Albanwr 29 oed yn agos at gau’r bwlch rhyngddo ef â Djokovic ar frig rhestr detholion y byd.

Gwahanol i 2013

 

“Rwy’n teimlo fod fy nghyfnod gorau mewn tenis eto i ddod, ac mae gen i gyfle i ennill mwy,” meddai Andy Murray wedi’r fuddugoliaeth.

Ac wrth ei gymharu â’i lwyddiant dair blynedd yn ôl yn 2013, dywedodd ei fod yn wahanol.

“Rwy’n teimlo’n fwy hapus y tro hwn. Yn fwy bodlon. Roedd y tro diwethaf yn rhyddhad llwyr, a wnes i ddim mwynhau’r ennyd gymaint, ac rwy’n benderfynol o fwynhau hwn yn fwy na’r gweddill,” meddai.

“Rwy’n falch fy mod wedi llwyddo i’w wneud eto.”