Geraint Thomas (Llun: O wefan Sky)
Mae dau Gymro wedi ennill eu lle yn nhîm Sky yn y Tour De France ym mis Gorffennaf eleni.

Bydd Geraint Thomas a Luke Rowe yn rhan o dîm o naw, i helpu’r pencampwr Chris Froome, i ennill y bencampwriaeth enwog am y trydydd tro o fewn pedair blynedd.

Fe gyhoeddodd rheolwr y tîm, Syr Dave Brailsford y garfan, gydag ychydig dros wythnos tan i’r Tour de France ddechrau ar 2 Gorffennaf.

Mae Ian Stannard o Loegr, Mikel Landa a Mikel Nieve o Sbaen, Sergia Henao o Golumbia, yr Iseldirwr, Wout Poels ac un o Felarus, Vasil Kiryienka, hefyd yn y tîm.