Mae Matthew Myers wedi cwblhau ei drosglwyddiad yn ôl i dîm hoci iâ Devils Caerdydd o’r Nottingham Panthers.

Symudodd Myers, sy’n enedigol o Gaerdydd, i Ganolbarth Lloegr haf diwethaf gan ennill y Cwpan Her a Phencampwriaeth y Gemau Ail Gyfle.

Mewn 63 o gemau’r tymor diwethaf, sgoriodd Myers 15 o goliau gan gynorthwyo 20 o goliau a hynny ar ben y 18 gôl wnaeth e sgorio a’r 17 gôl y gwnaeth e eu cynorthwyo y tymor blaenorol.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Devils Caerdydd, Todd Kelman: “Ry’n ni’n falch o gael Matthew yn ôl yng Nghaerdydd ar gyfer y dyfodol agos.

“Fe wnaethon ni weld eisiau ei ddull o chwarae y tymor diwethaf. Mae e’n gweithio ac yn brwydro’n galed.

“Ry’n ni’n gwybod beth gawn ni ganddo fe bob nos ac rwy’n falch ei fod e’n ‘Devil’ unwaith eto.”