Mae deuddeg o bobol oedd allan yn gwylio rali yng ngogledd Sbaen neithiwr, wedi’u hanafu wedi i gar wyro oddi ar y llwybr a mynd ar ei ben i mewn i rwystr diogelwch.

Mae un o’r gwylwyr wedi torri ei fraich, tra bod dynes arall wedi diodde’ nifer o anafiadau. Mae trydydd unigolyn wedi colli ei goes o ganlyniad i’r digwyddiad yn ystod Rali Cantabria.

Fe ddigwyddodd y ddamwin yn hwyr neithiwr (nos Wener) ar dro cas, ychydig funudau wedi iddi ddechrau bwrw. Roedd y glaw wedi gwneud wyneb y ffordd yn llithrig, ac fe gollodd gyrrwr y car reolaeth o’r cerbyd.