Mae’r paffiwr o’r Barri, Andrew Selby wedi creu hanes gyda buddugoliaeth yn ei bumed gornest broffesiynol.

Trechodd Selby Louis Norman o Gaerlŷr yn yr ornest ym Mae Caerdydd nos Sadwrn i ddod yn bencampwr pwysau pryf Prydain.

Mae ei frawd Lee hefyd yn bencampwr pwysau plu’r byd.

Er i Selby, 27, orfod cael seibiant hanner ffordd drwy’r ornest 12 rownd, fe ddaeth yn fwy penderfynol yn ail hanner yr ornest.

Bu’n rhaid i Norman wrthsefyll ymosodiad yn y rownd olaf ac fe enillodd ar bwyntiau yn y pen draw.

Bydd Selby yn amddiffyn ei deitl yn erbyn Kevin Satchell cyn rhoi cynnig ar ddod yn bencampwr y byd.