Marathon Llundain
Gyda Phencampwriaeth Cymru yn cael ei chynnal fel rhan o’r ras, roedd sawl un o Gymru wedi serennu ym Marathon Llundain ddoe, gan gynnwys y gyflwynwraig, Angharad Mair, a chwalodd y record Brydeinigyn ei chategori oedran.

Y Cymro cyntaf i groesi’r llinell oedd Andrew Davies o’r Drenewydd, gan ddod yn 20fed ymhlith y rhedwyr elît, gyda’i amser o 2 awr, 17 munud a 45 eiliad.

Yr ail Gymro oedd Michael Kallenberg o Gaerdydd, enillydd Marathon Eryri y llynedd, a oedd yn 9fed yn y ras agored, gan redeg y ras mewn 2 awr 21 munud a 38 eiliad.

Rosie Edwards, sydd bellach yn byw yn America, ond yn rhedeg dros Gymru, oedd y cyntaf ymhlith y merched i groesi’r llinell derfyn, a ddaeth yn 11eg yn y ras agored, gan redeg ei marathon cyntaf mewn 2 awr 45 munud a 4 eiliad.

Jessica Parry-Williams, sy’n mynd i’r un clwb rhedeg ag Angharad Mair yng Nghaerdydd, Les Croupier, ddaeth yn ail o ferched Cymru, ac yn 22ain yn gyffredinol, gydag amser o 2 awr 50 munud 33 eiliad.

Emma Crowe o glwb athletau Wrecsam oedd y ferch nesaf o Gymru, gan gwblhau’r marathon mewn 2 awr 52 munud a 53 eiliad.

Y dorf yn ‘ardderchog’

Mae Andrew Davies wedi rhedeg 15 marathon dros y byd i gyd, gan gynnwys rhai yn Seland Newydd, y Weriniaeth Siec, yr Iseldiroedd a’r Almaen. Dyma oedd ei ail ras yn Llundain.

“Roedd o’n anodd yn y diwedd, roeddwn i ar fy mhen fy hun am y rhan fwyaf ohoni (y ras). Roedd yn wyntog hefyd rownd bob cornel, felly roedd yn anodd ar fy mhen fy hun,” meddai wrth golwg360.

“Ond roedd y crowd yn ardderchog, llawer o faneri’r Ddraig Goch ymhob man, roedd yn wych.”

Marathon Norwy yw ei hoff farathon meddai, a hynny am y “golygfeydd ysblennydd”.

Dywedodd ei fod wedi dechrau paratoi o ddifrif at Farathon Llundain rhyw 10 wythnos cyn y ras, oedd yn cynnwys rhedeg 100 milltir rhai wythnosau, rhedeg hanner marathon Caerdydd ac o amgylch Llyn Efyrnwy.