Mae chwaraewyr tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi ennill gwobrau lu wrth i’r Gynghrair Hoci Iâ wobrwyo chwaraewyr gorau’r tymor brynhawn dydd Sul.

Ben Bowns gafodd ei enwi’n Brydeiniwr a gôl-warchodwr gorau’r Prydain.

Aeth y wobr am yr amddiffynnwr gorau i Andrew Hotham am yr ail dymor o’r bron, a chafodd Joey Martin ei enwi’n flaenwr gorau’r flwyddyn ac yn chwaraewr gorau’r flwyddyn.

Cafodd y tri eu henwi yn Nhîm y Flwyddyn.

Collodd y Devils o 6-2 yn erbyn Coventry Blaze yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle, ond roedden nhw’n fuddugol o 6-0 yn erbyn Fife Flyers yn yr ornest rhwng y trydydd a’r pedwerydd safle brynhawn dydd Sul yng ngornest olaf Tyson Marsh i’r Devils.