Roedd siom i dîm hoci iâ Devils Caerdydd nos Sul wrth i’r Sheffield Steelers ennill y gynghrair ar y diwrnod olaf.

Er i’r Devils guro’r Nottingham Panthers o 4-3 yn y brifddinas i godi i’r brig, roedd buddugoliaeth y Steelers o 3-1 dros y Fife Flyers yn ddigon i gipio tlws y Gynghrair Elit.

Yr unig ffordd y gallai’r Cymry fod wedi ennill y gynghrair oedd pe baen nhw wedi ennill a’r Steelers wedi colli, ond nid felly y bu hi wythnos yn unig wedi i’r Devils symud o’r Babell Fawr Las i gartref newydd sbon ym Mae Caerdydd.

Aeth y Devils ar y blaen yn y cyfnod cyntaf drwy Guillaume Doucet, wrth iddo rwydo wedi 12 munud yn erbyn ei gyn-glwb.

Gwnaeth y Devils ymestyn eu mantais wedi wyth munud o’r ail gyfnod wrth i Leigh Salters ddarganfod y rhwyd, ond fe darodd y Panthers yn ôl 61 eiliad yn ddiweddarach drwy Geoff Waugh.

Sgoriodd y Devils ddwy gôl mewn dwy funud tua diwedd yr ail gyfnod ac roedd hi’n ymddangos i bob pwrpas fod y fuddugoliaeth yn ddiogel.

Ond y Panthers gafodd y gair olaf wrth iddyn nhw sgorio dwy gôl yn y deng munud olaf, wrth i Robert Farmer rwydo wedi 50 o funudau, a Brad Moran yn sgorio’r gôl fuddugol wedi 54 munud.

Gemau ail gyfle

Fe fydd y Devils yn rownd wyth ola’r gemau ail gyfle sy’n cael eu cynnal y penwythnos nesaf, ac fe fyddan nhw’n herio’r Dundee Stars dros ddau gymal.

Bydd y Steelers yn herio Coventry Blaze, y Braehead Clan yn croesawu’r Fife Flyers a’r Panthers yn teithio i’r Belfast Giants.

Bydd tocynnau ar gyfer y cymal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf ar werth fore Llun.