Sicrhaodd tîm hoci iâ Devils Caerdydd fuddugoliaeth o 5-2 dros Manchester Storm ym Manceinion nos Sadwrn.

Jake Morissette oedd seren y Devils wrth iddo sgorio dwy gôl.

Y Saeson aeth ar y blaen wedi bron i wyth a hanner o funudau drwy Derek Roehl, ond fe darodd Chris Culligan yn ôl i’r Cymry wedi bron i 15 munud o’r gêm.

Dair munud yn ddiweddarach, rhwydodd Andrew Hotham i roi’r flaenoriaeth i’r Devils ar ddiwedd y cyfnod cyntaf.

Daeth dwy gôl Morissette yn yr ail gyfnod i sicrhau bod y Devils 4-1 ar y blaen.

Sgoriodd y Storm eu hail gôl wedi 52 o funudau drwy Vinny Scarsella ond tarodd y Devils yn ôl bron yn syth drwy Ryan Russell.

Hotham gafodd ei enwi’n seren yr ornest.

Mae’r Devils yn yr ail safle yn y tabl, ddau bwynt y tu ôl i’r Sheffield Steelers.

Bydd y gynghrair yn dod i ben i’r Devils heno wrth iddyn nhw groesawu’r Nottingham Panthers i’r brifddinas.