Y Cymro wedi curo Alberto Contador
Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi ennill ras seiclo Paris-Nice.

Fe gurodd Alberto Contador o bedwar eiliad yn y Bencampwriaeth, wrth i Tim Wellens o Wlad Belg ennill y cymal olaf.

Richie Porte, hefyd o Team Sky, orffennodd yn drydydd yn y cymal olaf.

Thomas oedd yn gwisgo’r crys melyn yn ystod y cymal olaf.

Gorffennodd yn ail yn y cymal olaf ond un o Nice i La Madone d’Utelle, wrth i Ilnur Zakarin gipio’r fuddugoliaeth i Team Katusha.

Dechreuodd Thomas y diwrnod olaf ond un yn y chweched safle, ond roedd ail yn y cymal yn ddigon i’w godi i’r brig ac yno yr arhosodd tan y diwedd.

Roedd y cymal olaf yn ras o 141km, wrth i’r cystadleuwyr ddringo chwe gwaith – gan gynnwys y Col d’Eze – cyn gorffen yng nghanol tref Nice.