Bydd yr ornest yn Venue Cymru'n dechrau am 1 o'r gloch ddydd Sul
Fe fydd Stuart Bingham a Shaun Murphy yn herio’i gilydd yn rownd derfynol Grand Prix Swncer y Byd yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Sul.

Aeth y ddau ben-ben â’i gilydd yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd y llynedd.

Cyrhaeddodd Bingham y rownd derfynol drwy guro Joe Perry o 6-5, tra bod Murphy wedi trechu Ding Junhui o 6-3.

Bingham oedd yn fuddugol o 18-15 pan gyfarfu’r ddau yn y Crucible yn Sheffield fis Mai diwethaf.

Dywedodd Stuart Bingham wrth wefan worldsnooker.com: “Mae’n golygu tipyn i fi gyrraedd fy rownd derfynol gyntaf y tymor hwn. Ro’n i bron yn fy nagrau wrth i fi botio’r peli olaf.”

Sgoriodd Murphy 62, 110, 88 a 66 wrth iddo gyrraedd y rownd derfynol.

Bydd yr ornest yn dechrau am 1 o’r gloch.