Mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n parhau i roi arian er mwyn cynnal Gemau Cymru yn 2016.

Mae’r digwyddiad, sydd yn ddwyieithog ac wedi’i drefnu gan Urdd Gobaith Cymru, yn gyfle i athletwyr ifanc ar hyd a lled y wlad gystadlu.

Y gobaith yw meithrin sêr Olympaidd y dyfodol, gyda sawl un sydd wedi cystadlu yn y gorffennol eisoes wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau fel Gemau’r Gymanwlad.

Fe fydd y gemau eleni yn derbyn £55,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a £60,000 gan Chwaraeon Cymru.

Blas ar y cystadlu

Cafwyd dros 1,000 o gystadleuwyr ifanc mewn naw gwahanol gamp yn y gemau llynedd, ac mae’r digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfle i bobol wirfoddoli a helpu gyda’r trefniadau.

“Pleser o’r mwyaf yw cefnogi Gemau Cymru unwaith eto,” meddai Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru.

“Ers ei sefydlu, mae Gemau Cymru wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr chwaraeon Cymru.  Mae’n gyfle i dalentau ifanc y dyfodol gystadlu mewn amgylchedd aml-gamp, dwyieithog.

“Mae’n rhoi blas iddyn nhw o gynulleidfaoedd mawr, y sylw y mae’r wasg yn ei roi a seremonïau agoriadol y mae ein hathletwyr gorau yn eu cael wrth gystadlu ar lwyfan rhyngwladol.”