Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas wedi codi i’r pumed safle yn ras Paris-Nice ar ôl gorffen yn 10fed yn y sbrint ar ddiwedd y cymal cyntaf.

Ar ôl i brolog y ras gael ei chynnal ddydd Sul, cafodd y cymal cyntaf rhwng Conde-sur-Vesgre a Vendome ei chipio gan Arnaud Demare o dîm FDJ, fodfeddi o flaen Ben Swift o dîm Sky.

Roedd Thomas hefyd ymysg y criw o feicwyr cyntaf i gyrraedd y llinell derfyn, gan olygu bod y Cymro bellach wyth eiliad y tu ôl i Michael Matthews o Awstralia ar frig y dosbarthiad cyffredinol.

Mae’r Cymro arall, Luke Rowe, hefyd yn rhan o dîm Sky yn y gystadleuaeth ac fe orffennodd e ddwy funud 22 eiliad y tu ôl i’r arweinwyr ar y cymal.