Y seiclwr cyntaf o wledydd Prydain i ennill y teitl yn 2015
Mae Geraint Thomas wedi amddiffyn ei deitl yn ras y Volta ao Algarve.

Gorffennodd y seiclwr o Gaerdydd yn bumed yn y cymal olaf a gafodd ei ennill gan Alberto Contador.

Y llynedd, Thomas oedd y seiclwr cyntaf o wledydd Prydain i ennill y teitl.

Pedair awr, 24 munud a 47 eiliad gymerodd hi i Contador ennill y ras, ac roedd Thomas 28 eiliad y tu ôl iddo.

Ond roedd gan Thomas fantais o 19 eiliad dros Ion Izagirre o Sbaen yn y gystadleuaeth gyfan, a Contador yn drydydd.