Mae’r awdurdodau sy’n gyfrifol am weinyddu cystadlaethau tenis wedi penodi panel i ymchwilio i honiadau o lygredd.

Roedd ymchwiliad diweddar yn honni bod 16 o chwaraewyr wedi cael eu hamau droeon o drefnu canlyniadau gemau ymlaen llaw, ond na chafodd yr honiadau ddigon o sylw.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg yn Awstralia fore Mercher, daeth cadarnhad y bydd y panel yn archwilio effeithiolrwydd yr Uned Gonestrwydd, sydd wedi cael ei beirniadu gan y BBC a Buzzfeed.

Y cyfreithiwr o Lundain, Adam Lewis fydd yn arwain y panel, ac mae disgwyl iddo graffu ar dryloywder yr awdurdodau, eu hariannu, eu strwythur a rhaglenni addysg.

Mae’r panel wedi ymrwymo i gyhoeddi canlyniadau’r arolwg ac i weithredu ar yr holl awgrymiadau sy’n deillio ohono.

Mae gan Adam Lewis brofiad helaeth o gyfuno’i arbenigedd ym maes y gyfraith gyda chwaraeon, wedi iddo fod yn aelod o dribiwnlysoedd Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr, UEFA, Undeb Rygbi Lloegr, Athletau’r DU a Gemau Olympaidd 2012.

Honiadau

Mae nifer o unigolion o dan y chwyddwydr ar ddechrau Pencampwriaeth Agored Awstralia, gan gynnwys detholyn rhif un y byd, Novak Djokovic a Lleyton Hewitt.

Roedd honiadau mewn papur newydd Eidalaidd fod Djokovic wedi colli gêm yn fwriadol yn 2007, tra bod honiadau bod Hewitt wedi bod yn betio ar gemau.

Mae’r ddau wedi gwadu’r honiadau yn eu herbyn.

Mae’r awdurdodau tenis wedi beirniadu’r BBC am ryddhau’r wybodaeth am yr ymchwiliad heb fod honiadau wedi cael eu profi.