Tîm Hoci Merched Pwllheli
Mae Tîm yr Wythnos Golwg360 bellach yn edrych ymlaen at gystadlu yn rownd gynderfynol eu cwpan cynghrair, yn dilyn canlyniadau’r penwythnos.

Wythnos diwethaf fe gawsom ein cyflwyno i Glwb Hoci Merched Pwllheli, sydd yn gobeithio codi tua £170,000 dros y misoedd nesaf er mwyn talu am gae newydd i’r tîm.

Roedd y tîm hefyd yn paratoi ar gyfer penwythnos prysur, gyda gêm gynghrair ddydd Sadwrn ac yna gornest gwpan ddydd Sul.

Yn anffodus colli oedd eu hanes yn y gêm gynghrair oddi cartref yn Llandudno o 2-1, gyda gôl Pwllheli’n cael ei sgorio gan Eleri Jones, a Lowri Hughes yn cael ei dyfarnu fel seren y gêm.

Ond ar ôl i’r Drenewydd fethu â chael tîm at ei gilydd ar gyfer y gêm gwpan ddydd Sul, mae Pwllheli bellach drwyddo i rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair Gogledd Cymru.

Roedd y tîm mewn hwyliau da felly wrth ymarfer yr wythnos hon – fel y gallwch weld yn y fideos canlynol o’r chwaraewyr yn cyflwyno’u hunain, ac ateb ein cwestiynau cyflym ni:

Bydd gêm nesaf tîm merched Pwllheli gartref yn erbyn Prifysgol Bangor ddydd Sadwrn. Pob lwc ar gyfer gweddill y tymor, genod!