Merched tîm hoci Pwllheli
Fe gawson ni ddechrau digon egnïol i 2016 i eitem Tîm yr Wythnos Golwg360 yr wythnos diwethaf, wrth i Glwb Rhedeg Pontardawe ein hannog ni i gadw’n ffit ar ddechrau’r flwyddyn.

A dydi’r prysurdeb ddim yn stopio’r wythnos hon, wrth i ni ddal i fyny gyda Chlwb Hoci Merched Pwllheli sydd yn paratoi ar gyfer dwy gêm fawr y penwythnos yma.

Tymor yma mae’r clwb wedi bod yn cystadlu yn Adran Un Cynghrair Hoci Gogledd Cymru am y tro cyntaf, yn dilyn dyrchafiad o’r ail adran llynedd.

Fe fyddan nhw’n herio Bae Colwyn oddi cartref mewn gêm gynghrair dydd Sadwrn, cyn dychwelyd i Bwllheli i groesawu’r Drenewydd mewn gêm yn rownd wyth olaf y gwpan ddydd Sul.

Seithfed yn y gynghrair o wyth tîm y mae Pwllheli ar hyn o bryd ar ôl ennill dwy o’u gemau, colli pump a chael un gêm gyfartal hyd yn hyn.

Ond mae Eleri Jones, sydd yn rhedeg y tîm, wedi bod yn falch â pherfformiadau’r garfan ifanc o chwaraewyr hyd yn hyn.

“Fe aethon ni fyny cynghrair llynedd felly yn amlwg ‘da ni ‘di cael tipyn o gemau heriol, ond mae pob gêm ‘di bod yn reit agos,” meddai Eleri Jones.

“Dw i’n meddwl ar y cyfan ‘da ni’n cadw’n pennau uwch ben y dŵr. ‘Da ni’n gobeithio gallu aros yn Adran Un a thrio gorffen y tymor tua’r canol gobeithio.

“Mae ’na dair cynghrair yng Ngogledd Cymru a ‘da ni ‘di bod yn yr ail adran ers tua 10 mlynedd, felly dyma’r tro cyntaf i ni godi i Adran Un. Mae’n dipyn o naid, a thipyn o drafaelio o Bwllheli hefyd!”

Tîm ifanc

Mae gan y clwb sawl tîm ieuenctid yn ogystal â’r prif dîm merched ar gyfer oedrannau cynradd ac uwchradd.

Ac mae’r tîm cyntaf yn cynnwys cymysgedd o chwaraewyr o wahanol oedrannau yn ogystal ag ambell i chwaraewraig ddawnus, yn ôl Eleri Jones.

“Mae gennym ni dîm eithaf ifanc a dweud y gwir, ac mae gennym ni dipyn o chwaraewyr talentog – mae chwech o’r garfan ar hyn o bryd yn chwarae i Ogledd Cymru,” meddai.

“Mae tua hanner y tîm yn yr ysgol neu coleg, a hanner yn hŷn na hynny – ond mae’r tîm yn mynd yn ‘fengach a ‘fengach, ac mae’n job ei gadw fo fynd!”

Yn ogystal ag ymarfer yn galed, wrth gwrs, mae’r garfan hefyd yn cael cyfle i gymdeithasu â’i gilydd yn achlysurol.

“Dros ’Dolig fe aethon ni i Bounce Below [yr ogofau trampolîn ym Mlaenau Ffestiniog], felly ‘da ni’n cael digwyddiadau bob hyn a hyn,” ychwanegodd Eleri Jones.

Cae i’r dyfodol

Nid canlyniadau ar y cae ydi’r unig beth sydd ar feddwl y tîm fodd bynnag, gan fod y clwb hefyd yn awyddus i adnewyddu eu cyfleusterau er mwyn sicrhau bod mwy o gemau’n gallu cael eu chwarae.

Mae’r tîm yn aml wedi gorfod gohirio neu aildrefnu gemau oherwydd cyflwr y maes chwarae, sydd yn aml y dan ddŵr, yn ogystal â gorfod methu ymarferion.


Cae clwb hoci Pwllheli dan ddŵr
Mae hyn yn golygu bod angen i’r clwb edrych ar ffyrdd o ariannu maes chwarae artiffisial newydd er mwyn i’r clwb allu parhau i chwarae ym Mhwllheli.

“Rydan ni’n trio am gae newydd drwy grantiau a chodi arian – ‘da ni angen ffeindio rhywbeth fel £170,000 i gael un newydd, achos mae’r un sydd yna ‘di bod yna ers rhyw 25 mlynedd ac yn dod  at ddiwedd ei oes rŵan,” esboniodd Eleri Jones.

“Mae ‘di mynd yn dipyn o stad yn ddiweddar efo’r tywydd, a ‘da ni di goro chwarae gemau cartref i ffwrdd, felly dani wir angen cae i Bwllheli. Hwn ‘di’r unig un o’i faint o yn yr ardal, a’r unig un i ysgolion a cholegau lleol ddefnyddio.”


Aelodau o'r tîm yn clirio'r cae
Mae’r clwb wedi cynnal trafodaethau cychwynnol â Chwaraeon Cymru er mwyn gweld pa gefnogaeth allai fod ar gael, ac mae datblygu maes allai gael ei defnyddio ar gyfer pêl-droed a rygbi yn ogystal â hoci yn opsiwn posib.

Bydd y clwb hefyd yn edrych ar ffyrdd o geisio codi arian wrth gynnal digwyddiadau a chystadlaethau ar y maes, gan gynnwys cynghrair ‘rush hockey’  ar gyfer grwpiau a busnesau lleol tebyg i’r hyn sy’n gyffredin gyda phêl-droed pump-bob-ochr.

Yn y bôn, y gobaith ydi y byddai hynny’n sicrhau dyfodol y clwb, gan barhau i ddarparu cyfle i bobl yr ardal fwynhau a chymryd rhan mewn chwaraeon.

“Llynedd fe wnaeth y clwb ddathlu 35 mlynedd, felly mae ‘na draddodiad hoci reit gryf ym Mhwllheli, a ‘da ni eisiau cadw hynny i fynd,” meddai Eleri Jones.

Fe gewch chi hanes gemau tîm hoci Pwllheli dros y penwythnos ar Golwg360 ddydd Llun. Os hoffech chi gael sylw i’ch clwb chwaraeon chi ar eitem Tîm yr Wythnos Golwg360, cysylltwch â iolocheung@golwg.com.