Fe fydd y ras geffylau a gafodd ei gohirio wedi’r Nadolig oherwydd y tywydd gwael, yn cael ei chynnal ar gwrs Cas-gwent bnawn heddiw.

Mae disgwyl i 20 o geffylau o bob cwr o wledydd Prydain ac Iwerddon ddod i Gas-gwent i gystadlu am wobrau gwerth £120,000 – a hynny ar dir sy’n dal yn drwm iawn wedi cyfnod o law diweddar.

Roedd ‘Grand National Cymru’ i fod i ddigwydd ar Ragfyr 27 y llynedd, ond fe newidiwyd y trefniadau oherwydd fod y cwrs rasio dan ddwr wedi cyfnod o law trwm.

Y bwriad ydi cynnal y ras am 1.45yp, heddiw.