Fydd ras geffylau ‘Grand National Cymru’ ddim yn cael ei chynnal ar gwrs Cas-gwent fory (Rhagfyr 27).

Yn dilyn archwiliad o’r cwrs fore heddiw gan reolwyr a threfnwyr, mae’r penderfyniad wedi’i wneud i ohirio’r ras oherwydd llifogydd.

“Roedd y tir eisoes yn llawn dwr,” meddai datganiad gan y trefnwyr, “a gan fod y rhagolygon yn addo mwy o law trwm yn ystod dydd Sadwrn, fe fydd yn rhaid i ni drefnu’r ras ar ddyddiad arall.”

Ar hyn o bryd, y gobaith ydi y bydd y ras yn cael ei rhedeg bythefnos i heddiw, Ionawr 9.