Mae yna gryn ansicrwydd p’un ai fydd ras geffylau ‘Grand National’ Cymru yn cael ei chynnal ai peidio fory.

Roedd disgwyl i archwiliad o’r cwrs yng Nghas-gwent gael ei gynnal ben bore heddiw (Gwyl San Steffan), er mwyn penderfynu a fydd y ras, sy’n cael ei chysidro’n uchafbwynt y byd rasio ceffylau yr ochr yma i Glawdd Offa, yn digwydd.

Mae rhannau o’r cwrs dan ddŵr, a dyw’r arolygon tywydd ddim yn addo gwell.

Mae swyddfa’r cwrs rasio ar agor ers 8 o’r gloch heddiw i ddelio â galwadau ac ymholiadau y cyhoedd.