Y bocsiwr Fred Evans
Mae’r bocsiwr Fred Evans wedi cyhoeddi ei fod yn troi’n broffesiynol ac wedi arwyddo gyda’r hyrwyddwr o Fryste Chris Sanigar.

Fe enillodd y gŵr 24 oed o Gaerdydd fedal arian yn y pwysau welter yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, a hynny ar ôl ennill aur i Gymru ym Mhencampwriaethau Ewrop 2011 yn Nhwrci.

Ond cafodd ei atal gan swyddogion rhag cystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad llynedd, a hynny’n dilyn ffrwgwd y tu allan i glwb nos yn Birmingham.

‘Anelu am y brig’

“Cefais yrfa amatur gwych a dw i eisiau diolch i’r holl staff hyfforddi yn Team GB, yn enwedig Robert McCracken,” meddai Fred Evans wrth gyhoeddi’i benderfyniad.

“Dw i’n meddwl mai troi’n broffesiynol yw’r cam nesaf, fe gyrhaeddais i’r brig fel amatur a dw i’n edrych i wneud yr un peth fel pro.”

Yn gynharach eleni fe benderfynodd Cymro a chyn-bencampwr Ewropeaidd arall, Andrew Selby, droi’n broffesiynol, ac mae eisoes wedi ennill tair gornest.