Mae’r Cymro o Bontypridd, Jamie Donaldson wedi cymhwyso ar gyfer yr Open fis Gorffennaf nesaf wedi iddo ennill Pencampwriaeth Golff Gwlad Thai.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Royal Troon.

Roedd Donaldson yn fuddugol o dair ergyd yn y pen draw yn dilyn cyfanswm o 65 yn y rownd olaf, saith ergyd yn well na’r safon.

Gorffennodd y Sais Lee Westwood yn ail i sicrhau ei le yn yr Open, ynghyd â Clement Sordet o Ffrainc a Phachara Khongwatmai o Wlad Thai.