Dan Biggar yn casglu'i wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2015
Roedd nos Lun yn noson i’w chofio i sawl un o sêr byd y campau – yn ogystal ag ambell athletwr, hyfforddwr a gwirfoddolwr llai amlwg – wrth i’r Gwobrau Chwaraeon Cymru blynyddol gael eu dosbarthu.

Dan Biggar oedd enillydd mawr y noson, gan gipio gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru, ac fe allwch chi weld enwau’r holl enillwyr eraill fan hyn.

Mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens a chyn bêl-droediwr Cymru Iwan Roberts eisoes wedi bod yn rhannu eu hargraffiadau nhw â Golwg360 ynglŷn â phrif enillwyr y noson.

Ac mewn podlediad arbennig, fe fu Iolo Cheung hefyd yn sgwrsio â rhai o’r sêr eraill oedd yn y gwobrau gan gynnwys cyn-asgellwr Cymru Shane Williams, yr athletwr Paralympaidd Aled Siôn Davies, y rhedwraig Hannah Brier, a’r hyfforddwyr ifanc Elan Môn Gilford a Lowri Hâf Barker.