Lee Selby
Mae Lee Selby wedi cadw’i goron fel pencampwr byd IBF pwysau plu ar ôl trechu Fernando Montiel mewn gornest yn Phoenix, Arizona.

Llwyddodd y Cymro 28 oed i ennill ar bwyntiau heb amheuaeth ar ôl 12 rownd o ymladd, y tro cyntaf iddo gystadlu mewn gornest focsio yn yr UDA.

Fe enillodd Selby o 119-109, 118-110 a 116-112 gyda’r beirniaid wrth iddo gadw’i felt IBF er gwaethaf ymdrech lew gan ei wrthwynebydd 36 oed o Fecsico.

Hon oedd y tro cyntaf i Selby amddiffyn ei goron pwysau plu ers iddo ei chipio oddi ar Evgeny Gradovich o Rwsia mewn gornest yn Llundain ym mis Mai.

‘Ddim ar fy ngorau’

Fe allai Selby nawr wynebu Josh Warrington o Leeds y flwyddyn nesaf, gyda’r Cymro eisoes yn dweud y byddai’n croesawu brwydr Brydeinig i gadw’i deitl.

Ond fe ddywedodd ar ôl yr ornest yn erbyn Montiel ei fod yn teimlo y gallai fod wedi gwneud yn well.

“I fod yn onest roeddwn i wedi fy siomi â fy mherfformiad i heno,” meddai Selby wrth matchroomboxing.com.

“Fe ges i fuddugoliaeth ac roedd hi’n deimlad gwych i sicrhau’r un gyntaf yn yr UDA, ond welodd y cefnogwyr ddim mohonof i ar fy ngorau ac roedd hynny’n rhannol oherwydd profiad Montiel. Mae’n ymladdwr gwych.”