Mae’r Cymro Lee Selby yn gobeithio amddiffyn ei deitl IBF pwysau plu pan fydd yn mynd ben-ben â Fernando Montiel o Fecsico yn Arizona fore Iau.

Dyma’r tro cyntaf i Selby, 28, geisio amddiffyn ei deitl ers iddo’i ennill drwy guro Evgeny Gradovich ym mis Mai.

Selby oedd y 13eg Cymro i ddod yn bencampwr byd.

Cael a chael oedd hi wrth i’r ddau baffiwr gael eu pwyso, y Cymro’n pwyso 125.8 pwys, tra bod Montiel yn pwyso 125.6 pwys.

Ond mae Montiel dipyn yn fwy profiadol na’r Cymro, ar ôl 60 o ornestau proffesiynol.

Mae’n gyn-bencampwr byd ar gyfer pwysau plu, gor-blu a bantam a dydy e ddim wedi colli’r un ornest ers pedair blynedd.

Yn dilyn yr ornest yn Phoenix, Arizona, mae’n bosib mai Josh Warrington o Leeds fydd gwrthwynebydd nesaf Selby.