Mae’r Gymraes 20 oed, Seren Bundy-Davies wedi helpu tîm ras gyfnewid 4x400m Prydain i gipio medal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Beijing.

Bundy-Davies oedd y bedwaredd i redeg ei chymal yn y ras wrth i Brydain gael eu trechu gan yr Unol Daleithiau a Trinidad a Tobago.

Roedden nhw 0.0001 eiliad ar y blaen i Jamaica, oedd wedi gorffen yn bedwerydd.

Enillodd Prydain saith o fedalau yn ystod Pencampwriaethau’r Byd, gan gynnwys medal efydd i’r dynion yn y ras gyfnewid 4x400m.

Christine Ohuruogu, Annika Onuora ac Eilidh Child oedd y tri aelod arall.