Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas wedi llithro o bedwerydd i bymthegfed yn nosbarthiad cyffredinol y Tour de France heddiw ar ôl diwrnod caled yn y mynyddoedd.

Llwyddodd Nairo Quintana i gau’r bwlch ychydig ar Chris Froome yn y frwydr am y crys melyn ar ôl gorffen yn ail ar gymal 19 o’r ras heddiw.

Vincenzo Nibali oedd yn fuddugol heddiw wrth i’r seiclwyr ddringo mynydd La Toussuire, gan orffen 44 eiliad o flaen Quintana a 1’13” o flaen Froome.

Mae’n golygu bod gan Chris Froome dal mantais o 2’38” dros Quintana yn y dosbarthiad cyffredinol, ac yn ffefryn o hyd i ddal gafael ar y crys melyn.

Ond doedd beiciwr tîm Sky ddim yn hapus wrth gyrraedd y llinell derfyn, ar ôl i aelod o’r dorf boeri arno, gydag ef a’i dîm hefyd wedi gorfod ceisio delio ag ymosodiadau di-ri gan y beicwyr eraill drwy’r dydd.

Gorffennodd Geraint Thomas 22 munud y tu ôl i Nibali, gyda’i ymdrech dros y tair wythnos diwethaf yn cael y gorau ohono, ac mae’r Cymro bellach wedi llithro i bymthegfed yn y dosbarthiad cyffredinol.

Fory fe fydd y beicwyr yn dringo’r Alpe d’Huez, y cymal olaf ym mynyddoedd yr Alpau cyn i’r ras orffen ym Mharis dydd Sul.