Gyda'i gilydd - Froome a Thomas (AP/Laurent Cipriani)
Mae Chris Froome, arweinydd y Tour de France, wedi dweud y byddai wrth ei fodd petai ei gyd-seiclwr yn nhîm Sky, Geraint Thomas, yn gallu ymuno ag ef ar y podiwm ar ddiwedd y ras.

Gyda dau gymal ym mynyddoedd yr Alpau ar ôl cyn y cymal olaf i Baris ddydd Sul, Froome sydd yn gwisgo crys melyn arweinydd y ras ac mae’n ffefryn clir i ennill – diolch yn rhannol i’r Cymro.

Mae Geraint Thomas wedi bod wrth ei ysgwydd bron yr holl ffordd, ac er gwaethaf gorfod helpu Froome yn hytrach na rasio drosto’i hun mae’r Cymro yn bedwerydd yn y dosbarth cyffredinol.

Ac ar ôl cael canmoliaeth fawr gan sawl un yn y byd seiclo am ei orchestion eleni, mae’r dyn y maen nhw’n ei alw’n ‘G’ yn llawn haeddu lle yn y tri uchaf, yn ôl Froome.

“Dyna fyddai’r freuddwyd i ni, cael dau feiciwr ar y podiwm ym Mharis,” meddai.

‘Gorffen y job’

Nairo Quintana ac Alejandro Valverde o dîm Movistar sydd yn ail a thrydydd ar hyn o bryd, gyda Quintana dair munud a deg eiliad y tu ôl i Froome.

Ond mae gan y beicwyr ddau gymal heriol i ddod, gyda dringfa i fyny mynydd La Toussuire heddiw ac yna’r Alpe d’Huez yfory – cyfle i Quintana geisio cau’r bwlch.

Mae gan Froome hanes cymysg yn ymwneud â’r ddau gymal, ar ôl ymosod yn erbyn Bradley Wiggins ar La Toussiere yn 2012 er gwaethaf y ffaith mai Wiggins oedd arweinydd ei dîm, a straffaglu ar yr Alpe d’Huez yn 2013 pan oedd ef ei hun yn gwisgo’r crys melyn.

‘Crys melyn yn bwysicach na thrydydd i Thomas’

Gan mai sicrhau ei fod yn gwisgo’r crys melyn ym Mharis unwaith eto yw’r nod eleni, fe gyfaddefodd Froome na allai tîm Sky ganolbwyntio ar geisio codi Geraint Thomas i’r trydydd safle.

“Y crys melyn yw ein ffocws ac mae’n rhaid i hynny ddod o flaen popeth arall ar y pwynt yma,” meddai Chris Froome.

“Gobeithio y gallwn ni orffen y job rŵan.”