Geraint Thomas
Cipiodd y Ffrancwr Romain Bardet fuddugoliaeth yng nghymal 18 o’r Tour de France heddiw wrth i’r beicwyr barhau i ddringo a throelli ar hyd mynyddoedd yr Alpau.

Gorffennodd y seiclwr o dîm AG2R 33 eiliad o flaen Pierre Rolland, Ffrancwr arall o dîm Europcar, gyda’r Colombiad Winner Ancona yn drydydd.

Doedd dim newid mawr i’r dosbarthiad cyffredinol gyda Chris Froome, Vincenzo Nibali, Nairo Quintana, Alberto Contador ac Alejandro Valverde i gyd yn croesi’r linell gyda’i gilydd.

Roedd Geraint Thomas hefyd ymysg y grŵp hwnnw o feicwyr, gan olygu ei fod e’n cadw’i bedwerydd safle yn y dosbarthiad cyffredinol chwe eiliad yn gynt na Contador.