Geraint Thomas
Llwyddodd Geraint Thomas i orffen cymal 16 o’r Tour de France heddiw er iddo ddioddef damwain cas ar ôl gwrthdaro â Warren Barguil gyda tua 10km i fynd o’r ras.

Cafodd y Cymro ei daro gan Barguil ar gornel cyn hedfan dros ei feic a disgyn oddi ar y ffordd a lawr dibyn, ond er gwaethaf y glec fe lwyddodd beiciwr Sky i godi ar ei draed a gorffen y cymal dim ond 30 eiliad ar ei hôl hi.

Ruben Plaza enillodd y cymal, 30 eiliad o flaen Peter Sagan, gyda Jarlinson Pantano yn drydydd.

Llwyddodd Vincenzo Nibali i gipio mantais o rhyw 30 eiliad dros brif gystadleuwyr eraill y dosbarthiad cyffredinol ond fe orffennodd Chris Froome, Nairo Quintana, Alberto Contador a Tejay van Garderen gydai’i gilydd.

Mae’n golygu nad oes newid mawr ar y brig, gyda Froome yn dal ei afael ar y crys melyn a Geraint Thomas hefyd yn cadw’i afael ar y chweched safle.