Fydd rownd derfynol Pencampwriaeth Agored y golff ddim yn cael ei chwarae tan ddydd Llun – a hynny oherwydd y stormydd o wynt a glaw sydd wedi taro’r Alban y penwythnos hwn.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan gorff rheoli’r gamp, wedi i lifogydd daro cwrs St Andrews, ardal Fife a swydd Perth.

Fe gafodd y chwarae ei ohirio fore heddiw, wrth i wyntoedd yn hyrddio ar gyflymder o 45 milltir yr awr gael eu cofnodi.

Ddoe, roedd glaw trwm wedi llesteirio rhai o chwaraewyr golff gorau’r byd, a bu’n rhaid iddyn nhw aros allan tan 10 o’r gloch y nos er mwyn cystadlu. Mae rhai eto i gwblhau eu hail rownd yn y gystadleuaeth.