Geraint Thomas
Cafodd Geraint Thomas a Chris Froome ras wych arall i dîm Sky wrth i feicwyr Tour de France reidio eu cymal olaf ym mynyddoedd y Pyrenees heddiw.

Joaquim Rodriguez oedd enillydd y cymal mewn tywydd stormus o law a tharannau, gyda Jacob Fuglsang yn ail a Romain Bardet yn drydydd.

Ond fe orffennodd y ddau feiciwr Sky yn y peloton unwaith eto gyda Froome yn cryfhau eu afael ar y crys melyn a Thomas yn dangos unwaith eto ei gryfder dringo eleni.

Mae’r Cymro dal yn bumed yn y Dosbarthiad Cyffredinol, 4’04” y tu ôl i Froome sydd ar y blaen.

Doedd dim newid mawr i’r prif gystadleuwyr eraill gyda Tejay van Garderen 2’52” y tu ôl i Froome yn yr ail safle, Nairo Quintana yn drydydd gyda 3’09” ac Alejandro Valverde yn bedwerydd, 3’58” ar ei hôl hi.

Mae Alberto Contador dal 4’04” ar ei hôl hi ond mae Vincenzo Nibali bellach wedi codi i’r deg uchaf a nawr 7’47” y tu ôl i Froome.