Geraint Thomas
Mae rheolwr Tîm Sky yn y Tour de France wedi awgrymu fod gan y seiclwr o Gaerdydd, Geraint Thomas, siawns o arwain y tîm yn y dyfodol.

Eleni, mae Tîm Sky yn canolbwyntio’n llwyr ar gael Chris Froome i godi’r teitl ym Mharis ar Orffennaf 26 ond mae Geraint Thomas wedi bod mor ddylanwadol yn yr wythnos gyntaf, dywedodd Syr Dave Brailsford ei fod yn credu y gallai herio am deitl y daith ei hun.

Meddai Syr Dave Brailsford: “Mae Geraint wedi bod yn un o feicwyr gorau’r ras eleni.

“Gallai arwain y tîm, ond y peth da am Geraint yw pan mae o’n dweud ei fod am fod yno i Chris Froome, mae o’n golygu hynny.

“Y cam rhesymegol nesaf yw iddo arwain tîm yn y Giro (d’Italia) neu Vuelta (a España). Mae’n feiciwr gwych.”

Mae Geraint Thomas wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd ac mae wedi creu argraff yn y pum Tour de France mae o wedi cymryd rhan ynddyn nhw.

Chris Froome oedd ail enillydd Prydeinig y Tour de France ar ôl buddugoliaeth Syr Bradley Wiggins yn 2012.