Serena Williams - pencampwraig tennis merched y byd
Mae Serena Williams wedi ennill pencampwriaeth y merched yn Wimbledon am y chweched tro.

Profodd y chwaraewraig tennis 33 oed i fod yn rhy gryf i Garbine Muguruzza o Sbaen, gan ei churo 6-4, 6-4 mewn dwy set y prynhawn yma.

Hi yw pencampwraig pob un o’r pedair brif gystadleuaeth tennis eleni – camp a gyflawnodd hefyd yn 2003.

Mae hi bellach o fewn un teitl pencampwriaeth i gyfanswm Steffi Graf o 22, y record byd.