Serena Williams
Bydd Serena Williams yn anelu i ennill ei 21ain Grand Slam heddiw, pan fydd yn dod wyneb yn wyneb gyda’r newydd ddyfodiad Garbine Muguruza o Sbaen yn ffeinal Wimbledon.

Petai’r chwaraewraig brofiadol Serena Williams, sy’n 33 oed, yn llwyddo i guro’r bencampwriaeth, bydd Williams yn cyrraedd carreg filltir trwy ennill ei chweched Wimbledon.

Serena Williams yw ffefryn y bwcis o bell ffordd, yn dilyn ei buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Maria Sharapova yn y rownd gyn derfynol.

Fe lwyddodd Gabrine Muguruza sy’n 21 oed ac yn ddeuddeng mlynedd yn iau na Seren Williams i gyrraedd y ffeinal gyda buddugoliaeth dros Agnieszka Radwanskal o Wlad Pwyl.

Mae Gabrine Muguruza, sydd heb gyrraedd ffeinal o’r Grand Slam o’r blaen, yn byw yn y gobaith fod posib curo Williams am ei bod wedi ei churo yn ail rownd ym mhencampwriaeth agored Ffrainc yn 2014.

Fe ddywedodd Muguruza sy’n 19ain yn y byd mai “dyma’r foment y bu hi’n gweithio amdano ar hyd ei bywyd”.

Bydd ffeinal y merched yn dechrau am 2 brynhawn heddiw.