Mae’r Cymro Aled Sion Davies wedi cipio dwy fedal aur yn Grand Prix yr IPC yn Berlin.

Daeth ei fedal gyntaf yn y siot gyda thafliad o 14.88 metr, a’r ail yn y ddisgen am dafliad o 47.76 metr.

Ond fe ddywedodd Davies ar ei dudalen Twitter ei fod yn siomedig gyda’i ymdrechion yn ystod y gystadleuaeth gyfan.

“Penwythnos rhwystredig,” meddai. “Dydy fy mherfformiadau ddim yn cyfiawnhau’r hyn rwy’n gallu’i wneud. Ond hapus gyda buddugoliaethau yn y ddau ddigwyddiad mewn amodau gwael.”