Mae Matthew Stevens un ffrâm i ffwrdd o fynd allan o Bencampwriaeth Snwcer y Byd, wrth i’w gêm yn erbyn Ronnie O’Sullivan ailddechrau heno.

Roedd y Cymro wedi cadw’n agos i’r pencampwyr, gan fynd 5-3 ar ei hôl hi ac yna bod tu ôl o 7-4 neithiwr yn y Crucible.

Ond yna fe enillodd O’Sullivan bum ffrâm yn olynol i fynd ar y blaen o 12-5, ac mae’n golygu bod ennill un ffrâm arall yn ddigon i anfon Stevens adref.

Roedd Matthew Stevens wedi curo’i gyd-Gymro Mark Williams 10-2 yn y rownd ddiwethaf i sicrhau lle yn yr wyth olaf yn erbyn Ronnie O’Sullivan.

Yng ngemau eraill yr wyth olaf mae Neil Robertson 11-5 ar y blaen yn erbyn Ali Carter, Judd Trump 10-6 ar y blaen yn erbyn Marco Fu, a Shaun Murphy 12-4 ar y blaen yn erbyn Joe Perry.