Mae un o bara-athletwyr disgleiriaf Cymru, Josie Pearson wedi penderfynu cefnu ar gystadlaethau taflu, a throi at fyd seiclo llaw.

Mae Pearson, sy’n hanu o’r Gelli Gandryll, yn gobeithio sicrhau ei lle yn nhîm seiclo llaw Prydain ar gyfer Gemau Paralympaidd Rio de Janeiro y flwyddyn nesaf.

Enillodd hi fedal aur yn y ddisgen F51/52/53 yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012, gan dorri record y byd dair gwaith yn ystod y Gemau.

Ond dydy’r ddisgen ddim wedi cael ei chynnwys ymhlith y cystadlaethau ar gyfer ei chategori hi yn 2016.

Her newydd

Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad ar Radio Wales neithiwr, dywedodd Josie Pearson ei bod hi’n barod am her newydd.

Mewn datganiad heddiw, dywedodd: “Dw i’n hynod gyffrous ar ôl cael fy nerbyn i dîm seiclo Prydain ar ôl colli’r ddisgen o’r rhaglen Baralympaidd ar gyfer Rio.

“Dw i wir yn mwynhau hyfforddi a dw i’n barod iawn i wynebu’r her sydd i ddod wrth i fi geisio cyrraedd Rio 2016.”

Pe bai Pearson yn llwyddo i gyrraedd y Gemau Paralympaidd y flwyddyn nesaf, hi fyddai’r bara-athletwraig gyntaf i gystadlu mewn tair cystadleuaeth wahanol dros dair Gemau olynol.

Athletwraig o fri

Daeth Pearson i amlygrwydd fel aelod o dîm rygbi cadair olwyn Prydain yn Beijing yn 2008, cyn mentro i fyd y ddisgen ar gyfer 2012.

Ar ôl i’r ddisgen gael ei thynnu o’r rhestr cystadlaethau ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yn Abertawe fis Awst diwethaf, penderfynodd hi gystadlu yn y taflu pastwn.

Er iddi ennill medal arian bryd hynny am dafliad o 14.02 metr, roedd hi’n amlwg ei bod hi wedi dadrithio.

Yn syth ar ôl y gystadleuaeth yn Abertawe, dywedodd hi wrth Golwg360: “Roedd yn gystadleuaeth rwystredig i fi.

“Roedd yna fater technegol gyda’r ffordd ro’n i’n taflu ac roedden nhw’n tynnu sylw ato fe o hyd. Mae’r rheolau wedi bod yn eu lle drwy’r tymor ond dyma’r tro cyntaf i rywun fy nghosbi.

“Mae’n drueni bod hynny wedi digwydd ym Mhencampwriaethau Ewrop.

“Dw i’n falch gyda medal arian yn fy ail hoff gystadleuaeth, felly alla i ddim cwyno.”

‘Dod nôl yn gryfach’

Yn dilyn ei siom yn Abertawe, dywedodd hi wrth gylchgrawn Golwg: “Fel athletwr dych chi byth jyst yn mynd i fyny ac i fyny. Ry’ch chi’n mynd i fyny ac i lawr o hyd. Yr iselfannau yw’r adegau pan y’ch chi’n sylweddoli bod rhaid i chi godi’ch hunan a dod nôl yn gryfach. Y siom y’ch chi’n ei gael sy’n eich gwneud chi’n gryfach fel athletwr.”

“Rhaid i fi fynd gyda’r campau sy’n cael eu dewis. Os oes rhaid troi at y pastwn fel prif gamp, dyna ni. Efallai y byddan nhw’n dod â’r ddisgen nôl ryw ddiwrnod.”

Ond am y tro, mae’r ddisgen wedi’i gwthio i gefn ei meddwl, ac mae’r gwaith caled yn dechrau o’r newydd.

‘Rhinweddau athletwraig’

Dywedodd prif hyfforddwr tîm para-seiclo Prydain, Jon Norfolk: “Ry’n ni wrth ein bodd o gael croesawu Josie i Raglen Podiwm Para-seiclo Prydain.

“Fel pencampwraig Baralympaidd a phencampwraig y byd ym myd athletau, eisoes mae gan Josie y rhinweddau sydd eu hangen er mwyn bod yn athletwraig o safon byd-eang ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hi a’i helpu i barhau â’i gyrfa lwyddiannus ym myd chwaraeon wrth i ni agosáu at Rio.”