Mark Williams
Mae Mark Williams wedi cyrraedd rownd wyth ola’ un o’r prif gystadlaethau snwcer am y tro cynta’ ers blynyddoedd – Pencampwriaeth Agored Cymru.

Fe lwyddodd y Cymro o’r Cwm i guro’r dyn sy’n chweched ar restr y byd, Judd Trump, a gwneud hynny’n gyhoeddus o 4-1.

Wrth ymateb i’r fuddugoliaeth, fe ddywedodd Williams yn syml, “Wnes i jyst chwarae’n well nag e”.

Stevens yn cwyno

Ond roedd Cymro arall, Matthew Stevens, yn flin iawn am gyflwr y byrddau yng nghanolfan Motorpoint yng Nghaerdydd.

“Cywilyddus” oedd ei air ar ôl iddo golli o 4-2 i Marco Fu o Hong Kong – gwrthwynebydd nesa’ Mark Williams.

Roedd yna sioc hefyd wrth i chwaraewr gorau’r byd, Mark Selby, golli i’r chwaraewr 19 oed o Wlad Belg, Lucca Brecel, a hynny er gwaetha’ sgorio rhediadau o 113 ac 141.

Mae gan Mark Williams gyfle da i ennill gan fod y rhan fwya’ o’r chwaraewyr gorau – gan gynnwys Ronnie O’Sullivan – bellach allan ohoni.